Mae fy mhlentyn yn awtistig, ddylen nhw ddysgu mwy nag un iaith?

main

Mae’n naturiol ei bod yn well gennych chi siarad â’ch plentyn yn eich iaith eich hun. Os ydych chi’n poeni y bydd siarad â’ch plentyn yn eich iaith eich hun yn broblem, mae’r daflen hon i chi.


Beth yw awtistiaeth?

Beth yw awtistiaeth?

Mae awtistiaeth yn gyflwr am oes sy’n newid y ffordd mae’r ymennydd yn datblygu ac yn gweithio.

Beth sy’n achosi awtistiaeth?

Mae’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn meddwl nad oes un peth unigol sy’n achosi awtistiaeth, ac weithiau mae’n gallu bod oherwydd geneteg. Mae’n dechrau cyn i blentyn gael ei eni, hyd yn oed os yw’n cymryd nifer o flynyddoedd i’w weld. Dydy bod yn rhiant gwael, brechlynnau, heintiau, bwydydd neu drawma DDIM yn achosi awtistiaeth.

Oes triniaeth i’w gwella?

Na, does dim triniaeth i’w gwella, a does dim angen ei wella. Dydy unrhyw driniaeth sy’n honni gwella awtistiaeth ddim yn onest.

Pwy sy’n gallu bod yn awtistig?

Gall pobl o unrhyw rywedd, unrhyw liw croen, unrhyw ddiwylliant, unrhyw darddiad, ac unrhyw grefydd fod yn awtistig.

Ydy’n bosibl “cael gwared ar awtistiaeth gydag amser”?

Nac ydy, mae profiadau a galluoedd pobl awtistig yn newid yn ystod eu bywydau, fel pawb, ond byddan nhw bob amser yn awtistig. Mae awtistiaeth yn rhan bwysig o hunaniaeth pobl.

Beth all pobl awtistig ei wneud?

Gall pobl awtistig wneud pethau gwych, yn union fel pobl nad ydyn nhw’n awtistig. Efallai byddan nhw’n gwneud rhai pethau yn wahanol.


Ydy’n beth da neu ddrwg i blant awtistig glywed neu siarad mwy nag un iaith?

Ydy tyfu i fyny gyda mwy nag un iaith yn drysu plant awtistig?

Nac ydy, dydy hi ddim yn eu drysu.

Ydy dwyieithrwydd yn gwneud dysgu’r ddwy iaith yn fwy anodd?

Nac ydy, dydy e ddim. Gall plant awtistig brofi problemau gydag ieithoedd, ond gallan nhw ddysgu mwy nag un iaith er hynny. Efallai bydd yn cymryd mwy o amser, ond mae hyn yn gyffredin ar gyfer pob plentyn dwyieithog.

Beth os dydy fy mhlentyn ddim yn siarad?

Hyd yn oed os dydy eich plentyn ddim yn siarad, gallan nhw ddeall mwy nag un iaith. Mae’n bosibl bod deall iaith yn anodd i’ch plentyn hefyd, ond fydd siarad â’ch plentyn mewn mwy nag un iaith ddim yn newid faint maen nhw’n gallu siarad neu ddeall. Fydd siarad â’ch plentyn mewn mwy nag un iaith ddim yn ei niweidio.

Ddylwn i stopio siarad yn fy iaith fy hun a defnyddio Saesneg yn ei lle?

Na ddylech, siaradwch yn yr iaith sy’n fwy cyfforddus i chi. Mae ymchwil yn dangos mai hyn yw’r peth gorau ar gyfer rhieni a phlant.

Ydy tyfu i fyny gyda dwy iaith yn ei gwneud hi’n fwy anodd i fy mhlentyn ddysgu a deall pethau?

Nac ydy, dydy tyfu i fyny gyda mwy nag un iaith ddim yn ddrwg i sgiliau meddwl a dysgu eich plentyn.

Oes pethau da o ran tyfu i fyny gyda mwy nag un iaith ar gyfer fy mhlentyn awtistig?

Oes, llawer o bethau da! Bydd eich iaith yn helpu eich plentyn i gysylltu â’u teulu a’r gymuned. Hefyd, mae’n gallu bod yn beth da ar gyfer eu bywyd yn y dyfodol. Mae deall mwy nag un iaith yn helpu pobl i ddeall pobl eraill, cael mynediad at hobïau a diddordebau newydd, a chael swyddi.


Dydy tyfu i fyny gyda mwy nag un iaith ddim yn beth drwg i blant awtistig.

Mae’n gallu cael effaith dda ar lawer o bethau yn eu bywyd: bod yn rhan o gymuned, dysgu pethau newydd a chael mwy o gyfleoedd.

Mae tyfu i fyny gyda mwy nag un iaith mor dda i bobl awtistig ag y mae i bawb eraill.

Os ydych chi’n dewis siarad â’ch plentyn awtistig yn eich iaith eich hun, dydych chi ddim yn gwneud unrhyw beth yn anghywir.

Un iaith neu ddwy, dewiswch beth sy’n well i’ch teulu.

happy